Monday 23 April 2007

Ymgynghori Statudol - Cynigion ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2008

Ymgynghori Statudol

Cynigion ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2008

Mae'r ddogfen hon yn cynrychioli barn Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg yn Ninas a Sir Abertawe.



Er bod llawer o'r newidiadau arfaethedig yn glodwiw a byddant yn cael eu croesawu gan athrawon, teimlwn yn flin iawn bod gwaith datblygu ac ymgynghoriadau wedi'u cynnal o fewn y fframwaith pynciau presennol. Felly, bwriad hysbys Llywodraeth Cynulliad Cymru yw creu 'fframwaith cydlynol sengl ar gyfer y cwricwlwm, asesu a chymwysterau' ac i gael trefn pynciau sy'n 'hawdd eu trin ac yn adlewyrchu nodweddion y cwricwlwm cyfan' . Ychydig iawn o ddangosyddion a geir lle edrychwyd ar y cwricwlwm yn gyffredinol. Ni fydd rhwyddineb a chydlyniad byth yn cael eu cyflawni'n llawn nes bod y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael ei archwilio a'i adolygu yn yr un ffordd ag, er enghraifft, athro/athrawes sy'n addysgu 30 plentyn saith mlwydd oed, Pennaeth Cynradd neu bennaeth blwyddyn 7 sy'n ceisio darparu cwricwlwm blaengar, parhaus ac ysgogol i ddiwallu anghenion a diddordebau eang y disgyblion yn ein dosbarthiadau.

Mae'r pwyntiau canlynol yn manylu ar yr uchod mor gryno â phosib.


  • Yn gyffredinol, mae'r cynigion yn cynrychioli cyfle a gollwyd am adolygiad mwy radical a phellgyrhaeddol sy'n adlewyrchu naws a chynnwys 'Y Wlad sy'n Dysgu'.

  • Mae angen 'mireinio' llawer o'r newidiadau i bynciau ac nid ydynt yn mynd i'r afael â gormod o gynnwys. Er bod llawer i'w gymeradwyo am bob pwnc, bydd y mater o 'ymdriniaeth' yn dal i atal creadigrwydd athrawon yn eu cwest am brofiadau dysgu o ansawdd uchel.

  • Er bod y Cyfnod Sylfaen eisoes yn ysbrydoli llawer o athrawon, nid oes llawer yn y pynciau newydd sy'n debygol o effeithio'n gyflym ac yn gadarnhaol ar ddysgu disgyblion yn CA2 a CA3 drwy wella ansawdd dysgu.

  • Ni fydd y cwricwlwm arfaethedig yn rhoi llawer o gyfle i ysgolion ac athrawon unigol i ymateb i anghenion disgyblion. Rhaid gosod mwy o bwyslais ar ryddid athrawon i addysgu mewn ffordd sydd fwyaf addas ar gyfer plant unigol a mwyafu eu dysgu. Mae'r fframwaith sy'n ymdrin â 'chynnwys pwnc' yn dal i wahaniaethu yn erbyn plant ag ADY.

  • Rhaid cofio y bydd y rhan fwyaf o'n plant, rhwng 3 ac 11 oed, yng Nghymru'n cael eu haddysgu mewn Ysgolion Cynradd. Nid yw'r cynigion yn gwneud llawer i hyrwyddo cydlyniad yn y cyfnod Cynradd.

  • Mae'n fwy na thebyg y bydd bwlch rhwng y Cyfnod Sylfaen a CA2. Yn annhebyg i'r Cyfnod Sylfaen, nid oes sail resymegol addysgol neu athronyddol glir ar gyfer CA2. Ni roddwyd digon o gydnabyddiaeth i'r trawsnewidiad hollbwysig hwn yn arbennig o ran datblygu sgiliau, agweddau a threfniadau. Mae'r enw 'CA2' hyd yn oed yn pwysleisio'r bwlch yn absenoldeb 'CA1'.

  • Wrth fynd i'r afael â'r pwynt blaenorol, mae'n hanfodol bod datganiad cyffredinol clir yn cael ei lunio, gan bwysleisio o 7 mlwydd oed ymlaen, dylai pynciau gael eu defnyddio i ddatblygu sgiliau allweddol a sgiliau pynciau. Mewn geiriau eraill, mae sgiliau'n cael eu datblygu drwy gynnwys y pwnc. I gynorthwyo gyda hyn, dylai'r Fframwaith Sgiliau gael ei wneud yn statudol cyn gynted â phosib.

  • Mae cyfeiriadau i Gyfnodau Allweddol (h.y. oedran) yn annefnyddiol a dylent gael eu dileu o'r ddogfen Sgiliau.

  • Rhaid cael aliniad manwl gywir rhwng Sgiliau Cwricwlwm 2008 a Sgiliau Allweddol Estyn. Yn sicr, dylai hyn fod yn gyfle i waredu dryswch a'r perygl presennol yn hytrach na'i gynyddu.

  • Dylai dwyieithrwydd gael yr un statws uchel o fewn CA2 a CA3 a geir ar hyn o bryd o fewn y Cyfnod Sylfaen.

  • Mae perygl y bydd 'rhif' fel sgil allweddol yn cael ei ddehongli'n fwy cul na rhifedd. Mae'n anodd deall y rhesymau dros y newid arfaethedig hwn.

  • Dylai pynciau egluro bod creadigrwydd a sgiliau creadigol yn hanfodol i Sgiliau Meddwl.

  • Nid yw'r fframwaith yn dal i wneud digon i fynd i'r afael â materion go iawn parhad a chynnydd o CA2 i CA3.

  • Ni roddwyd digon o sylw ar asesu dysgu. Mae gormod o bwyslais o hyd ar brofion adolygol a lefelu yn hytrach na dulliau asesu sy'n cefnogi dysgu disgyblion unigol.

  • Mae fformat disgrifiadau lefelau'n annefnyddiol. Byddai continwwm yn fwy priodol.

  • Mae angen posteri 'cyffredinol' mawr i gyfathrebu'n glir, i'r proffesiwn ac i'r cyhoedd, negeseuon allweddol ac ysbrydoledig ynghylch natur y cwricwlwm yng Nghymru.


Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg

No comments: