Monday 30 July 2007

Cofnod Sesiwn Friffio 06.07.07 Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg

Trafodwyd y pwyntiau a ganlyn yn y sesiwn friffio:


  • Blog

  • Gwobr Llyfr y Bae

  • Dyfarniad Ysgolion Iach

  • Safon Abertawe ar gyfer Hunanwerthuso Ysgolion

  • BFI

  • Effaith Leonardo

  • Ffair Wyddoniaeth Ysgolion Bychan

  • Tŷ Gwydr Ysgol Gynradd San Joseff

  • Y Cyfnod Sylfaen/Swyddog Hyfforddiant a Chefnogaeth y Cyfnod Sylfaen

  • ACCAC/AADGOS/AADG

  • Adolygiad 360°

  • Cyfarfod BMP



Bydd y sesiwn friffio nesaf ddydd Llun 23 Gorffennaf 2007

Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg

Cofnod Sesiwn Friffio 20.06.07 Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg

Trafodwyd y pwyntiau a ganlyn yn y sesiwn friffio:


  • Adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree

  • CAS

  • RHAGORI

  • Digwyddiad TGCh

  • Cynllun PPI

  • Wicipedia

  • CAME

  • Safon Abertawe ar gyfer Hunanwerthuso Ysgolion

  • Neges gan y Prif Weithredwr

  • Cyflog Cyfartal ac Adolygiad Cyflogau a Graddfeydd

  • Neuadd y Ddinas

  • Adolygiad corfforaethol o drafnidiaeth

  • Adrodd am Ddamweiniau

  • Y Ganolfan Ddinesig




Bydd y sesiwn friffio nesaf ddydd Gwener 6 Gorffennaf 2007

Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg

Thursday 19 July 2007

Cofnod o Sesiwn Friffio’r Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg 15.06.07

Trafodwyd y pwyntiau canlynol yn y sesiwn friffio:

  • Sefyllfa’r gyllideb

  • Arolwg ysgolion y comisiwn archwilio

  • RHAGORI

  • Cyngerdd cerdd Bywyd Abertawe

  • Ffurflen fonitro’r Cynllun Addysg Sengl

  • Arddangosfa wyddoniaeth ysgolion bach

  • Digwyddiad Dathlu TGCh

  • Darllen Miliwn o Eiriau

  • 9fed Arddangosfa’r Celfyddydau

  • PPI

  • Gwobrau Safon Abertawe ar gyfer Ysgolion sy’n Hunanwerthuso


Cynhelir y sesiwn friffio nesaf ddydd Gwener 22 Mehefin 2007

Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg

Cofnod o Sesiwn Friffio’r Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg 18.05.07

Trafodwyd y pwyntiau canlynol yn y sesiwn friffio:

  • TB Gorseinon

  • Gwiriadau’r SCT

  • Cyfarfodydd swamwac

  • Adborth swamwac

  • Cais Creu’r Cysylltiadau

  • Hyfforddiant

  • Polisi Pwyntiau SPA

  • Gliniaduron newydd yn Clydach

  • Cynllun PPI

  • Secondiad Mark Campion i Estyn

  • Cyfle am secondiad 2 flynedd ar gyfer Swyddog Hyfforddiant a Chefnogaeth y Cyfnod Sylfaen

  • Neges gan y Prif Weithredwr

  • Y Ganolfan Ddinesig

  • Ysgol St Thomas

  • Strategaeth Bae Abertawe


Cynhelir y sesiwn friffio nesaf ddydd Gwener 15 Mehefin 2007

Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg

Friday 4 May 2007

Cofnod Sesiwn Friffio Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg 20.04.07

Trafodwyd y pwyntiau a ganlyn yn y sesiwn friffio:


  • Adroddiad PWC ar e-Lywodraeth

  • Ynghlwm wrth Brosiect Creu’r Cysylltiadau

  • Gwobrau Rhagoriaeth Gwasanaeth

  • 2 ysgol yn Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr BECTA

  • Arian ychwanegol sydd ar gael gan Gyngor Chwaraeon Cymru

  • Pontio

  • Neges gan y Prif Weithredwr

  • Canolfan Gyswllt

  • Prosiect Neat

  • Gwobrau Cludiant Cenedlaethol

  • Y Ganolfan Ddinesig

  • Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi

  • Gwobr Prentis y Flwyddyn



Mae'r sesiwn friffio nesaf wedi ei threfnu ar gyfer Dydd Gwener 18 Mai 2007

Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg

Thursday 26 April 2007

Cofnod Sesiwn Friffio Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg 30.03.07

Trafodwyd y pwyntiau a ganlyn yn y sesiwn friffio:

  • Cynhadledd Sgiliau Sylfaenol Llythrennedd

  • Athroniaeth i Blant

  • Cynhadledd Ysgrifennu Dawns

  • Athrawon Ysgolion Uwchradd

  • Safonau Cenedlaethol

  • Cyfweliadau ar gyfer Ymgynghorydd Cynhwysiad


Mae'r sesiwn friffio nesaf wedi ei threfnu ar gyfer Dydd Gwener 20 Ebrill 2007

Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg

Cwricwlwm Cymru 2008 - ymateb i'r cynigion ymgynghori

Mae'r ymateb hwn yn crynhoi barn penaethiaid Cynradd a dirprwy benaethiaid yn Ninas a Sir Abertawe. Mae'n ganlyniad cynhadledd cynulleidfa fawr ar gyfer pob grŵp, a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2007.

Er mwyn gallu ei ddarllen yn haws, fe'i cyflwynwyd fel cyfres o bwyntiau ar wahân yn hytrach na naratif parhaus. Mae llawer o'r pwyntiau'n cydgysylltu ac yn gorgyffwrdd.

Pwyntiau Cadarnhaol


  • Rydym yn croesawu'r flaenoriaeth uwch a roddir i sgiliau o fewn pynciau.

  • Mae'r Fframwaith Sgiliau yn ychwanegiad hanfodol.

  • Bydd y cyfleoedd cynyddol am astudio ar draws y cwricwlwm a themâu yn arwain, mewn llawer o achosion, at well ysgogiad a mwy o ddysgu annibynnol.

  • Mae'r cynigion ar gyfer y Cyfnod Sylfaenol eisoes yn ysgogi athrawon ac yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant.

  • Credwn fod fframwaith ABCh yn cefnogi arfer da mewn ysgolion cynradd.

  • Mae'r pynciau'n cael eu cyflwyno'n llawer gwell.



Pyderon a Siomedigaethau


  • Mae'r pynciau'n dal i fod yn rhy gyfarwyddol o ran cynnwys.

  • Rydym yn siomedig iawn bod cyfleoedd wedi cael eu colli i wella cwricwlwm CA2 a darparu trosolwg cydlynol o'r cyfnod Cynradd cyfan.

  • Mae ehangder y cwricwlwm o fewn CA2 yn dal i gael ei ddehongli fel 'ychydig bach o bob pwnc yn y cyfranau cywir'. Mae hyn yn nodi camsyniad hen a syml o ddysgu yn y cyfnod Cynradd.

  • Ar hyn o bryd, mae bwlch rhwng y Cyfnod Sylfaen a CA2 yn anochel.

  • Bydd rhai ysgolion yn teimlo bod yr ychwanegiadau yn y cynigion newydd yn ormod o faich, yn hytrach na chael eu hysbrydoli gan ymrwymiad cliriach, sydd wedi'i adnewyddu, cenedlaethol i hawl pob plentyn i gwricwlwm eang, cyfoethog, yn seiliedig ar sgiliau.

  • Yn annhebyg i'r Cyfnod Sylfaen, nid oes llawer yng nghynigion CA2 i ysbrydoli a herio athrawon i ddatblygu methodolegau addysgu mwy effeithiol.

  • O ran 'sgiliau' neu 'sgiliau allweddol', ceir datgysylltiad o hyd rhwng y cynigion ymgynghori a fframwaith Estyn ar gyfer arolygon statudol.

  • Mae asesu ffurfiannol wedi cael ei hesgeuluso.

  • Ceir dryswch rhwng canlyniadau a lefelau'r cwricwlwm cenedlaethol. Felly bydd asesu ac olrhain cynnydd drwy'r cyfnod Cynradd yn ofnadwy o anodd o dan y cynigion newydd.

  • Bydd gan y fframwaith sgiliau statws isel oni bai a than iddo gael ei wneud yn statudol a bod yr obsesiwn presennol gyda lefelu o fewn pynciau'n cael ei ddileu.

  • Mae pontio rhwng CA2 i CA3 ond yn cael ei gefnogi drwy bynciau. Nid oes digon wedi cael ei wneud i sicrhau bod profiadau plant yn y cyfnod cynradd yn cael eu hadeiladu arnynt yn CA3.

  • Mae gan y cynigion oblygiadau enfawr ar hyfforddi a datblygu'r holl staff.

  • Rydym yn siomedig, bod gan ddwyieithrwydd statws isel yn CA2 o fewn y cynigion newydd, o'i gymharu â'r Cyfnod Sylfaen.

  • Oherwydd diffyg trosolwg cydlynol, mae cwricwlwm CA2 a'i asesiadau'n anodd eu cysyniadoli a hefyd i'w disgrifio neu eu esbonio naill ai i blant, i rieni neu lywodraethwyr.




Gobeithion a Dyheadau


  • Dylai AADGOS ac Estyn gyfathrebu ar frys ac yn gyhoeddus i sicrhau bod disgwyliadau cenedlaethol, p'un ai statudol neu anstatudol, a'r fframwaith arolygu'n cyd-fynd yn union.

  • Dylai ysgolion cynradd gael eu hannog a'u galluogi i ddatblygu sgiliau sy'n canolbwyntio ar ymagweddau ar draws y cyfnod cynradd. Mae angen neges glir bod cynnwys pynciau, yn offeryn ar gyfer gwneud yr holl blant yn fwy medrus ym mhob maes dysgu, yn bennaf. Dylai popeth gael ei wneud i osgoi diffyg parhad ar gyfer plant sy'n symud ymlaen o'r Cyfnod Sylfaen.

  • Gydag amser, dylem symud i sefyllfa lle sgiliau yw elfennau statudol y cwricwlwm a hawl statudol plentyn yw cael cwricwlwm eang o ansawdd uchel. I'r perwyl yma, dylai'r Fframwaith Sgiliau fod yn rhywbeth statudol cyn gynted ag y mae'n ymarferol.

  • Dylai dibenion asesiadau lefelu a 'ffit gorau' gael eu hailarchwilio yn ngoleuni eu defnyddioldeb i'r plentyn unigol.

  • Dylai asesiadau ffurfiannol, o ran sgiliau pwnc a sgiliau allweddol, dderbyn mwy o sylw ar draws y cyfnod Sylfaen.

  • Dylai hyfforddiant staff gael adnoddau llawn a dylai ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd athrawon Cynradd.

  • Dylai'r prif negeseuon a rhai allweddol gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. Dylai'r rhain, er enghraifft, egluro'r berthynas rhwng polisi cenedlaethol ynghylch yr arwyddocâd sy'n gysylltiedig â dysgu a realiti bywyd yn y dosbarth mewn ysgol dda; ailbwysleisio rôl hanfodol rhieni a gofalwyr yn addysg eu plant; parhau i greu awyrgylch cenedlaethol sy'n gefnogol ac yn wybodus ynghylch dysgu yn y cyfnod Cynradd; ac ysgogi ac ysbrydoli'r holl blant a staff fel dysgwyr.


Cliciwch fan hyn am fersiwn Iaith Saesneg